Ynys – Newid Lyrics

NEWID (CHANGES)

Dala lan yn yr oriau man
Chwarae sŵn y gwynt a'r glaw
A thalu'r arian mawr am freuddwydion,
Fel o'n i arfer cael

Sgerbwd adeiladau tal
Diolch am eich adborth chi
Eisteddwch i lawr, mae ychydig o newyddion da fi

Fi'n sylwi ar y ffordd ni'n newid
A does dim byd yn aros yr un peth
Datod y clymau, a thorra ni'n ddarnau
A fi'n sefyll yn yr adfeilion, beth yn y, beth yn y byd

Hysbysebion sydd yn datgan
Cynlluniau anferth sydd yn dod yn fuan iawn
Paid gadael i nhw ennill
Neu dorri dy ysbryd di

Fi'n sylwi ar y ffordd ni'n newid
A does dim byd yn aros yr un peth
Datod y clymau, a thorra ni'n ddarnau
A fi'n sefyll yn yr adfeilion, beth yn y, beth yn y byd

Comments (0)