Ynys – Caneuon Lyrics

Caneuon (Songs)

Ma' fe fel y ffrind, sydd wedi mynd
Cyfaill coll yn rhywle pell
Ôl blwyddyn arall tu ôl dy lygaid
Dal i ddisgwyl am rywbeth i ddychwelyd

Bach fel allwedd dan y garreg,
Sy'n aros o flaen y drws.
Esgus arall i ni gwrdd, a dianc i ffwrdd.

O'n i'n gwrando ar Gegin Nos,
Pan nath e i gyd ddechre dod nôl
Hen alawon coll,
Mae'n nhw wastad yna os ti angen nhw

Mae'n ddechrau digwydd, un diwrnod ar y tro.
Dyma'r llais clywais sawl gwaith.
Ambell waith pan ti ar goll,
A does neb arall, yn gallu deall.

Mewn breuddwyd arall
Lle fi'n clywed ti'n canu unwaith to
Esgus arall i ni gwrdd a dianc i ffwrdd.

O'n i'n gwrando ar Gegin Nos,
Pan nath e i gyd ddechre dod nôl
Hen alawon coll,
Mae'n nhw wastad yna os ti angen nhw

Comments (0)