Ynys – Aros am Byth Lyrics

AROS AM BYTH (Waiting Forever)

Dyw'r ddysgl byth yn wastad, ac mae'r sêr sydd yn y gofod
Yn trio dweud fod dagrau yn dy lygaid

Mae cyfarch â hwyl fawr
yn rhy gyfarwydd nawr
A ti bach rhy bell i fi ofyn os ni'n iawn

Wyt ti'n mynd i aros?
Wyt ti'n mynd i aros am byth
Gyda fi

Darllen neges ar y ffordd
Un nos cyn mynd i ffwrdd
A chofio y tro cyntaf i ni gwrdd

Oes gyda ti yr ateb
Pan fi'n teimlo'n ddi-gyfeiriad
Neu fap, i ddangos ble mae'r ffordd

Wyt ti'n mynd i aros?
Wyt ti'n mynd i aros am byth
Gyda fi

Comments (0)