Gadael cyn i'r geiriau gnoi,
dianc mond er mwyn osgoi.
Dewis anwybyddu'r ffaith,
bo'r clwyfau wedi gadael craith.
(Ond dwi) dal i deimlo nerth yr ergyd,
dal i gofio gwres y fflam,
dal i glywed llais yn galw (yn tywys nol)
Dal i deimlo nerth yr ergyd,
dal i gofio gwres y fflam,
dal i glywed llais yn galw
(Odd rai' mi) foddi'r synnau yn fy mhen,
tra ddaeth y bennod ola'i ben.
Claddu'r cyfan fesul darn,
I aros ar y trywydd iawn.
(Ond dwi) dal i deimlo nerth yr ergyd,
dal i gofio gwres y fflam,
dal i glywed llais yn galw (yn arwain nol)
Dal i deimlo nerth yr ergyd,
dal i gofio gwres y fflam,
dal i glywed llais yn galw.
A dio byth yn darfod, byth yn darfod
Ti wastad yno'n hudo
Ond mond drwy golli ffydd, ma' torri'n rhydd.
Ond mond drwy golli ffydd, ma' torri'n rhydd.
Ond wrth nesu at y llinell derfyn (yr un yw'r drefn)
Gweld y gwir ond dal i erfyn (i chwarae'r gêm)
Ti'n gaddo'r byd, yn dweud mai dyma yw'r tro ola
Da ni di bod ma o'r blaen.
Comments (0)