Dŵr
Dŵr
Dŵr sydd yn llifo dros y wlad
Lle bu fy mam a 'nhad
A'm brodyr a'm chwiorydd
A minnau'n byw
Daeth y Saeson gyda'u stŵr
I osod haen o ddŵr
Mor dyner ac mor dirion
Dros drigfannau 'mro
Dyma lle bu'r caeau
Dyma lle bu'r coed
Lle rhedai plant y cwm yn ysgafndroed
Dyma lle bu'r ysgol
Dyma lle bu'r llan
Dyma lle bûm innau'n byw
Ond dŵr
Dŵr
Dŵr sydd yn siglo yn yr awel
A'i wyneb o mor dawel
A diniwed ac oer a glân
Ond dyn gyda'i holl wybodaeth
Defnyddiodd ein llywodraeth
I roi terfyn ar fywyd y dyffryn hwn
Dyma lle bu'r ffermydd
Dyma lle bu'r ffordd
Dyma'r capel lle y magwyd llawer bardd
Dyma lle bu adlais lleisiau
Yn torri aur dydd haf
Dyma lle bûm innau'n byw
Dŵr
Dŵr
Dŵr fu'n yn gyfaill i mi'n blentyn
A drowyd yn arf yn erbyn
Popeth sydd yn annwyl ac yn ddrud i mi
Dŵr sydd yn tewi lleisiau'r ffermwyr
Rhag blino yr ymwelwyr
A tharfu ar yr heddwch gyda'u sŵn
Dyma'r dŵr sy'n drymach
Nag unrhyw garreg fedd
A'r distawrwydd na rydd byth i'r enaid hedd
Dyma lle y claddwyd
Corff oedd eto'n fyw
Dyma lle llofruddiwyd enaid bro
Gan ddŵr
Dŵr
Comments (0)