Gwilym – Cwîn Lyrics

Dwi'm yn gofyn gormod
Dwi mond yn gofyn am dy wên
Dwi ddim eisiau gormod
Ti'm yn gorfod gwneud unrhyw beth
Unrhyw beth

Chdi a dy griw bach fyddlon
Yn sipian ar dy win
A ddychmygodd goron
Fel sai chdi ydi'r cwîn
Ydi'r cwîn

Ond gwylia di
Ddaw na rywun gwell na chi
Cenfigen pur
Neith dy ddad-goroni di

Ti isho isda yma
Dwi ddim yn gofyn am y byd
O na? Dos ta
I grio yn dy grud
Yn dy grud

Tria fod yn ddistaw
Ti'n denu sylw at dy hun
Dos ar dy bererindod
I ffeindio'th ddarlun perffaith o ddyn
O ddyn

Ond gwylia di
Ddaw na rywun gwell na chi
Cenfigen pur
Neith dy ddad-goroni di

Gwylia di
Ddaw na rhywun gwell na chi
Cenfigen pur
Neith dy ddad-goroni di

Comments (0)