GWCCI – ANWELEDIG Lyrics

Dwi'n teimlo rhyw ffordd amdanat ti,
Pan ti'n mynd nôl a mlaen efo fi,
Ond paid a gadael fynd,
Teimlo'n anweledig pan ti ddim fan hyn,
Caru chdi'n ffôl a charu'n ddig,
Talu fi nôl drwy chwarae mîg,
A pan ti'n chwarae'r gêm,
Teimlo'n anweledig tan fi weld dy wên.
Ti'n gwthio, dwi'n tynnu, baby, dwi fyny, ti lawr,
Ti'n mynnu fy sylw, baby, am ambell i awr,
Dwi'n anweledig, dwi'n anweledig,
Wir i chdi, does na neb ond ni,
So pam ti'n honi bod honna'n holi os ti efo fi?
Dwi'n anweledig, dwi'n anweledig.
Mae nghalon i'n gloff,
Y gwacter lle oedd hi arfer bod,
Yn tyfu pan y daw fin nos,
Dwi'n colli ffydd, yeah,
Mae dy atgof di yn galw fi nôl,
A dwi'm isio bod yr un sy'n gadael,
Negeseuon nei di'm ateb yn ôl,
Paid ateb yn ôl.
Ti'n gwthio, dwi'n tynnu, baby, dwi fyny, ti lawr,
Ti'n mynnu fy sylw, baby, am ambell i awr,
Dwi'n anweledig, dwi'n anweledig,
Wir i chdi, does na neb ond ni,
So pam ti'n honi bod honna'n holi os ti efo fi?
Dwi'n anweledig, dwi'n anweledig.
Anweledig, Anweledig,
Anweledig, Anweledig,
(Ti'm yn fy ngweld i),
Anweledig, Anweledig,
(Ti'm yn fy ngweld i),
Anweledig, Anweledig. (x2)"

Comments (0)