Dyma'r allwedd i fy nghalon, dyna chdi
Paid â dangos hwn i neb
A paid â son mod i di rhoi o i chdi
Os 'dyn nhw gofyn, dydw i heb
'Stedda i lawr a gwranda arna i
Mae genna' i rywbeth dwi eisiau i ddweud
A dwi'm yn siŵr iawn be dwi'n addo'n fama i chdi
Dwi'm yn siŵr iawn be dwi'n wneud
Nes i'm ddisgwyl i chdi crio, dweud y gwir
Doedd genna' i'm bwriad mynd ymhell
Ella nes i ddim esbonio hyn yn glir
'Swn ni di gallu neud yn well
Eistedda i lawr a gwranda arna i
Genna' i rywbeth dwi eisiau i ddweud
'Sgen ti'm hawl i droi dy gefn arna i
Dim ar ôl be ti 'di wneud
O
Paid â dod yn ôl i weld y llanast dwi 'di wneud
O
Mae pawb yn gweld y gwir yn ôl eu hanes mae nhw'n ddweud
'Stedda i lawr a gwranda arna i
Mae genna' i rywbeth dwi eisiau i ddweud
'Sgen ti'm hawl i droi dy gefn arna i
Dim ar ôl be ti 'di wneud
O
Paid â dod yn ôl i weld y llanast dwi 'di wneud
O
Mae pawb yn gweld y gwir yn ôl eu hanes mae nhw'n ddweud
Cwyd dy hun o'r baw
Gwêl y heulwen draw
Ar ôl gwynt a glaw drwy dy galon ffydd a ddaw
Cwyd dy hun o'r baw
Gwêl y heulwen draw
Ar ôl gwynt a glaw drwy dy galon ffydd a ddaw
O
Comments (0)